PDSR yn croesawu Cadeiryddion clwstwr diwydiant newydd

PDSR yn croesawu Cadeiryddion clwstwr diwydiant newydd

Mae'r PDSR yn falchiawn o gyhoeddi bod tri o gadeiryddion newydd wedi'u penodi ar gyfer yclystyrau diwydiant. Rydym yn diolch i'n cadeiryddion sy'n gadael am eu gwaithcaled a'u hymroddiad tuag at hyrwyddo cenhadaeth y Bartneriaeth i gyfeiriadcadarnhaol.

Yn y rownd ddiweddaraf o etholiadau grŵp clwstwr penodwydyr unigolion canlynol:

Mae Dean Ward, arweinydd profiadol yn y diwydiantadeiladu a Phrif Weithredwr DCW Group, wedi'i benodi'n Gadeirydd y ClwstwrAdeiladu.

Alison Haberstraw, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl, ydarparwr Tai Cymdeithasol, Gofal a Chymorth mwyaf yng Nghymru, fydd Cadeirydd yClwstwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae Andrew Beer wedi cael ei benodi'n Gadeirydd y ClwstwrGweithgynhyrchu.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n cadeiryddionnewydd ac elwa o'r profiad helaeth y maent yn ei gynnig i'w sectorau priodol.Mae'r wybodaeth a'r safbwyntiau newydd y byddant yn eu cyfrannu yn destuncyffro i fwrdd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol.

Mynegodd Dean Ward ei frwdfrydedd, gan ddweud "Mae'nanrhydedd gennyf gael fy mhenodi'n Gadeirydd y Clwstwr Adeiladu. Mae'rdiwydiant adeiladu yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi, ac mae'n hanfodolein bod yn buddsoddi mewn datblygu gweithlu medrus i yrru twf yn y dyfodol.Rwyf yn ymrwymedig i weithio gyda'r holl randdeiliaid i greu piblinell sgiliaugadarn sy'n cefnogi llwyddiant parhaus ein rhanbarth."

Rhannodd Alison Haberstraw ei chyffro, gan ddweud,"Rwyf yn falch iawn o gael fy mhenodi'n gadeirydd y grŵp clwstwr ar gyferiechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf ar dân dros bobl a sicrhau bod cydweithwyr yncael y dechrau gorau yn eu rolau, fel eu bod yn cael boddhad ac yn dyheu amwneud eu gorau glas. Mae llawer o heriau yn wynebu'r sector hwn, gan gynnwysein gweithlu, ac mae'r cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a gyrru proffesiynoldebein gweithlu yn destun cyffro i mi."

Dywedodd Andrew Beer “Rwy'n gyffrous i gael fy mhenodi'n gadeirydd ygrŵp clwstwr gweithgynhyrchu. Rwyf wedi treulio fy holl fywyd gwaith ym maesgweithgynhyrchu yn Ne Cymru, gan ddechrau flynyddoedd lawer yn ôl fel prentisyn British Steel (TATA). Rwy'n angerddol iawn am ddatblygu sgiliau o fewn ysector. Rwy'n arbennig o ymwybodol o'r angen i wella ymwybyddiaeth achanfyddiad o'r sector gweithgynhyrchu. Mae gennym lawer o waith o'n blaenau ynenwedig gyda'r ymgyrch i sero net, y trawsnewid ynni a'r sefyllfa gyda TATA a'igadwyn gyflenwi. Mae'r rhain yn unig yn heriau enfawr a chyfleoedd sy'n gofynam nifer digynsail o unigolion medrus. Hoffwn ddiolch i'r cadeirydd blaenorol,Paul Greenwood am ei holl waith caled a'i ymrwymiad i'r rôl.

Rydym yn hyderus y bydd y cadeiryddion newydd yn dod âdirnadaeth ac arweinyddiaeth gwerthfawr i'w rolau, gan helpu i yrru cenhadaethy Bartneriaeth yn ei blaen.