Tîm Sgiliau a Thalentau yn arddangos cyfleoedd yn nosweithiau rhieni ysgolion

Yn dilyn llwyddiant prosiect profiad gwaith ysgolion y llynedd, lansiodd y Tîm Sgiliau a Thalentau fenter newydd gyffrous gyda'r nod o ymgysylltu â rhieni a myfyrwyr ar draws y rhanbarth. Ymwelodd y tîm â nosweithiau rhieni mewn ysgolion uwchradd lleol, lle cawsant eu croesawu gan yr ysgolion a'r teuluoedd.

Yn ystod yr ymweliadau, bu'r tîm yn brysur yn sgwrsio â rhieni a disgyblion, gan roi gwybod iddynt am y cyfleoedd cyffrous niferus sydd ar gael yn y rhanbarth, gan rannu gwybodaeth am fentrau sydd ar y gweill, megis y datblygiadau addawol yn y Môr Celtaidd.

Nod y fenter oedd lledaenu ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd amrywiol sydd ar gael ac annog myfyrwyr i archwilio a manteisio ar y datblygiadau hyn ac aros yn ein rhanbarth. Bydd y Tîm yn parhau i gydweithio ag ysgolion lleol i sicrhau bod y neges am gyfleoedd cyffrous ar garreg ein drws yn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl.