Ar ddechrau'r flwyddyn, cawsom y pleser o groesawu Dean Ward fel Cadeirydd newydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol (RLSP). Daw Dean â phrofiad helaeth a phersbectif ffres i'n partneriaeth, ac rydym yn gyffrous i weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael.
I'ch helpu i ddod i adnabod Dean yn well, cawsom sgwrs gyda fe'n ddiweddar:
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau busnes yn Ne-orllewin Cymru?
De-orllewin Cymru yw gartref i fi erioed, ac rwy' wedi gweld drosto fi fy hun y potensial sydd gan y rhanbarth hwn. Mae moeseg waith gref yma, ac rwy' wastad wedi credu y gall busnesau ffynnu gyda'r weledigaeth a'r ysgogiad cywir. Roeddwn i am adeiladu rhywbeth ystyrlon - rhywbeth fyddai'n helpu i lywio dyfodol economaidd y rhanbarth yn ogystal â chreu swyddi a chyfleoedd. Mae'r cyfuniad o dalent, uchelgais a'r strwythurau cymorth cywir yn gwneud hwn yn lle gwych i dyfu busnes.
Allwch chi rannu moment gofiadwy o'ch gyrfa a gafodd effaith sylweddol arnoch chi?
Un o'r pethau sy'n sefyll mas yw fy nhaith ddiweddar i Hong Kong gyda Tech West of England Advocates. Roedd cwrdd ag ystod mor amrywiol o weithwyr proffesiynol o safon a darpar bartneriaid wir wedi atgyfnerthu'r cyfleoedd byd-eang sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru. Roedd hyn wedi amlygu sut y gall y cysylltiadau cywir a'r weledigaeth strategol agor drysau ymhell y tu hwnt i'r hyn rydych chi'n ei ddychmygu i ddechrau. Cryfhaodd y profiad hwnnw fy mhenderfynoldeb i feithrin cysylltiadau rhyngwladol cryfach i'r busnesau rwy'n ymwneud â nhw.
Beth sy'n eich cyffroi fwyaf am fod yn gadeirydd yr RLSP?
Y cyfle i wneud gwir wahaniaeth. Mae potensial aruthrol gan Dde-orllewin Cymru, a thrwy ddod â busnesau, darparwyr addysg, a gwneuthurwyr polisi at ei gilydd, gallwn greu system sgiliau sydd wir yn cefnogi twf economaidd. Rwy'n angerddol ynghylch sicrhau bod pobl ifanc a gweithwyr yn ein rhanbarth yn cael yr hyfforddiant a'r llwybrau gyrfa cywir, gan sicrhau bod gan fusnesau y doniau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Beth sy'n bwysig yw adeiladu dyfodol lle mae unigolion a diwydiannau yn ffynnu.
Beth sy'n eich ysgogi i godi a mynd i'r gwaith bob dydd?
Beth sy'n fy ysgogi yw'r her o greu rhywbeth gwerthfawr—boed yn tyfu busnesau, creu cyfleoedd i eraill, neu ddatrys problemau cymhleth. Rwy'n mwynhau'r broses o gymryd syniad a'i droi'n realiti, boed hynny'n ehangu'r DCW Group, lansio mentrau newydd fel y SmartScore Barometer, neu weithio ar gyfleoedd buddsoddi mewn eiddo. Gweld cynnydd a chael effaith yw beth sy'n fy ysgogi i.
Beth yw rhai o'ch diddordebau'r tu allan i'r gwaith?
Rwy' bob amser yn barod am her dda, boed hynny mewn busnes neu ddiddordebau personol. Rwy'n mwynhau teithio, yn enwedig pan mae'n ymwneud ag ymchwilio i farchnadoedd newydd a chwrdd â phobl ddiddorol. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn pysgota bras (pan nad yw hi'n oer ac yn wlyb!), Rygbi, a chanu opera (ydw rwy'n denor operatig sydd wedi'i hyfforddi'n glasurol!) Pan fydd amser rhydd gyda fi, rwy'n hoffi cadw'n heini a threulio amser gyda fy ngwraig Caroline a'r ddau fab, Christopher a Jacob, ac rwy'n treulio'r rhan fwyaf o fy mhenwythnosau ar ochr caeau pêl-droed neu rygbi yn bod yn dad brwd!