Mae'n Wythnos Brentisiaethau, sy'n dod â phawb sy'n angerddol am brentisiaethau a sgiliau at ei gilydd i ddathlu'r gwerth, y budd a'r cyfle y maent yn eu cynnig i'n rhanbarth. Yn y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, rydym yn falch o gyflwyno ein prentisiaid Amy a Connor, dau unigolyn eithriadol sy'n llunio dyfodol ein gweithlu.
Mae Amy a Connor wedi bod yn gweithio yn y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, gan ennill profiad ymarferol a chyfrannu at ein cenhadaeth o ysgogi twf economaidd yn Ne-orllewin Cymru. Mae eu hymdrechion yn tynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddi mewn talent ifanc ac adeiladu gweithlu sy'n barod at y dyfodol.
Ymunwch â ni i ddathlu Wythnos Brentisiaethau a chydnabod potensial anhygoel prentisiaid fel Amy a Connor.
Postio gan Sara Nicholls
Dydd Mercher, 12 Chwefror 2025 11:55:00