Y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ac OCU Hornbill yn Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf o Beirianwyr

Y mis hwn, ymunodd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ag OCU Hornbill ac ysgol Ystalyfera-Bro Dur i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr. Nod y digwyddiad cydweithredol oedd arddangos pwysigrwydd peirianneg yn y byd sydd ohoni a sbarduno diddordeb ymhlith dysgwyr ifanc.

Cafodd dysgwyr gyfle i glywed gan arbenigwyr yn y diwydiant am y rôl y mae peirianneg yn ei chwarae yn ein cymdeithas. Amlygodd y sesiwn y gwahanol lwybrau gyrfa ym maes peirianneg a'r effaith y mae peirianwyr yn ei chael ar ein bywydau bob dydd. Cafodd eu cyflwyno hefyd i'r wefan newydd, 'Expore Engineering', lle gallant ymchwilio'n ddyfnach i fyd peirianneg, cyrchu adnoddau gwerthfawr, a darganfod cyfleoedd cyffrous yn y maes.

Yn dilyn y sgyrsiau gan arbenigwyr, cafodd y dysgwyr brofiad ymarferol yn y gweithdai. Cawsant gyfle i roi cynnig ar wahanol offer a chael blas ar y broses beirianneg.