Crefftau Medrus: Y swyddi gwag mwyaf heriol i'w llenwi yn y DU

Mae astudiaeth ddiweddar a gomisiynwyd gan yr Adran Addysg yn datgelu mai "Crefftau Medrus" yw'r swyddi anoddaf i'w llenwi yn y DU o hyd, a hynny oherwydd prinder sgiliau sylweddol a diffyg diddordeb yn y rolau hyn.

Fel rhan o'r astudiaeth cynhaliwyd cyfweliadau gyda bron i 73,000 o fusnesau'r DU ar draws gwahanol sectorau. Canfu'r astudiaeth fod 72.5% o'r swyddi crefftau medrus gwag presennol yn anodd eu llenwi, ac mai prinder sgiliau sy'n gyfrifol am 50% o'r swyddi gwag hyn. Mae hyn yn gynnydd o 12% ers yr astudiaeth ddiwethaf a gynhaliwyd yn 2017.

Yn ddiddorol, er mai Bricwyr a Seiri Meini oedd y rolau crefftau medrus anoddaf eu llenwi yn 2017, maent wedi dod yn haws eu llenwi, gyda gostyngiad o 20% i ddwysedd swyddi gwag anodd eu llenwi cyfredol o 60%.

Mae'r astudiaeth ddiweddaraf yn tynnu sylw at nifer o rolau crefftau medrus sydd bellach yn cael eu hystyried yn Swyddi Gwag oherwydd Prinder Sgiliau ac felly'n rhai anodd eu llenwi. Mae'r rolau hyn yn cynnwys Peiriannu a Hogi Metel, Cigyddion, Gwydrwyr, Gwneuthurwyr a Gosodwyr Ffenestri, Trydanwyr, Plymwyr, a Seiri Coed, sydd i gyd â dwysedd prinder sgiliau rhwng 60-70%. Mae hyn yn dangos mai dim ond 30-40% o'r swyddi gwag hyn sy'n cael eu llenwi gan unigolion â sgiliau digonol.

Mae crefftau medrus yn Ne-orllewin Cymru yn creu tua 30,000 o swyddi, mae dynion yn cymryd 86% ohonynt ac mae disgwyl i 22% o'r gweithlu ymddeol o fewn y 10 mlynedd nesaf.

Dywedodd Jane Lewis, Rheolwr y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol: "Er mai astudiaeth genedlaethol yw hon, mae'n adleisio'n fawr yr hyn sy'n digwydd ar draws De-orllewin Cymru. Ers 2017 (cyfnod yr astudiaeth flaenorol) mae gostyngiad o 9% wedi bod Crefftau Medrus yn Ne-orllewin Cymru, mae hynny'n 2,900 yn llai o weithwyr yn y rolau hyn ac mae'r llwyth gwaith ar gyfer y crefftau hyn yn cynyddu." Aeth ymlaen i ddweud "Mae'r prinder sgiliau hwn yn bryder sylweddol i'r economi leol, gan fod crefftau medrus yn hanfodol ar gyfer twf economaidd, datblygiad masnachol, a ffyniant cymunedau. Wrth i'r genedl symud tuag at ynni cynaliadwy, bydd y rhanbarth yn gweld mwy o waith seilwaith gwyrdd, adfywio porthladdoedd rhydd a datgarboneiddio domestig, bydd y galw am grefftau medrus ond yn tyfu.”

Grwpiau swyddi eraill

Mae pob grŵp gwaith wedi gweld cynnydd mewn dwysedd Prinder Sgiliau ers 2017, gyda Ffigur 1 yn dangos fod dwysedd Swyddi Gwag oherwydd Prinder Sgiliau wedi gwaethygu'n gynyddol ers 2011.

Ffigur 1 – tuedd dwysedd Swyddi Gwag oherwydd Prinder Sgiliau

Mae ffigur 2 yn dangos y swyddi sydd â'r dwysedd uchaf o brinder sgiliau, sydd dros 50% ar hyn o bryd.

Er gwaethaf y ffaith fod prinder sgiliau yn gwaethygu, canfu'r astudiaeth fod cyflogwyr yn buddsoddi llai mewn hyfforddi staff, gyda gostyngiad o 6% ers 2017.

Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn croesawu eich barn, eich cwestiynau, eich awgrymiadau a'ch argymhellion ynghylch sut i fynd i'r afael â'r materion hyn yn ymwneud â phrinder sgiliau.  Cymerwch ran, ymunwch â'n clystyrau atebion sgiliau, a helpwch ni i newid y darlun hwn.

Os oes gennych sylwadau neu gwestiynau am yr erthygl hon, neu os hoffech weld mwy o ddata am yr astudiaeth hon, cysylltwch â'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol. Rydym yn hapus i hwyluso.

 

Cyfeirnodau

Employer Skills Survey , Calendar year 2022 - Explore education statistics - GOV.UK (explore-education-statistics.service.gov.uk

Gwybodaeth y Farchnad Lafur 2025 Lightcast

Mae swydd wag oherwydd prinder sgiliau yn swydd wag sy'n anodd ei llenwi oherwydd diffyg sgiliau, cymwysterau neu brofiad ymhlith ymgeiswyr.

Dangosir swyddi gwag oherwydd prinder sgiliau fel cyfran ganran o'r holl swyddi gwag (dwysedd swyddi gwag oherwydd prinder sgiliau)

Swydd wag anodd ei llenwi yw swydd wag sy'n anodd ei llenwi oherwydd diffyg diddordeb, canfyddiad anghywir o'r rôl, sgiliau, cymwysterau neu brofiad ymhlith ymgeiswyr.

Dangosir swyddi gwag anodd eu llenwi fel cyfran ganran o'r holl swyddi gwag (dwysedd swyddi gwag anodd eu llenwi)